Byddwch yn dysgu'r canlynol:
• Peirianneg ac iechyd a diogelwch amgylcheddol • Effeithlonrwydd a gwelliant sefydliadol ym maes Peirianneg • Egwyddorion trydan ac electroneg * • Electroneg ddigidol * • Cydosod a Phrofi Cylchedau Electronig * (* Gall rhai unedau dewisol newid)
5 TGAU gradd A*-C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg/Cymraeg a Gwyddoniaeth neu gymhwyster Lefel 2 mewn Electroneg.
Yng Ngholeg y Cymoedd byddem yn eich annog i wneud y gorau y gallwch yn eich asesiadau. Po uchaf eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych a gallai arwain at gwrs lefel uwch.
Ymhlith dulliau asesu’r cymhwyster hwn mae arholiad amlddewis ar y sgrin ar gyfer un uned orfodol ac un uned ddewisol ac asesiadau ymarferol a theori wedi'u marcio gan y Ganolfan ar gyfer unedau eraill y llwybr. Dyluniwyd dulliau asesu i asesu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dysgwyr ar gyfer pob uned. Mae'r arholiadau amlddewis ar y sgrin yn cael eu gosod a'u marcio gan y sefydliad dyfarnu. Mae'r asesiad mewnol yn cael ei osod gan y sefydliad dyfarnu a'i farcio gan aelodau o'r tîm cyflwyno yn y Ganolfan.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch wedi datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol a dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau trydanol ac electronig, felly gellid ceisio cyfleoedd cyflogaeth ym maes Offeryniaeth a Rheolaeth Electronig, megis dosbarthu petro-gemegol, nwy a dwr ynghyd â Chydosod Electronig ac Awtomeiddio.